Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 28 Chwefror 2022
Amser:
13.30 -
14.17
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12611
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS Peter Fox AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - Gohiriwyd tan 14 Mawrth 2022
Gohiriwyd y sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad tan 14 Mawrth 2022.
3 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i'w codi o dan Reol 21.2 neu 21.3
3.1 SL(6)154 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3.2 SL(6)156 - Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
4.1 SL(6)157 - Rheoliadau Bwyd (Tynnu Cydnabyddiaeth yn Ôl) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.2 SL(6)158 - Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.3 SL(6)159 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.4 SL(6)160 - Rheoliadau Ceisiadau am Gymorth Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Disgyblion mewn Sefydliadau Addysgol) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
4.5 SL(6)162 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.6 SL(6)155 - Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
4.7 SL(6)161 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
5 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7
5.1 SL(6)153 - Cod ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
6 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
6.1 SL(6)148 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, a nododd ef.
7 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
7.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
7.2 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Etholiadau a Chofrestru
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
7.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: COP26 rhwng Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
8 Papurau i’w nodi
8.1 Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.
8.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
8.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
8.4 Datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog: Adroddiad ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Prif Weinidog.
8.5 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
8.6 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio'r Gyfraith, Senedd yr Alban: Ymchwiliad i ddefnyddio’r weithdrefn gwneud cadarnhaol yn ystod pandemig y coronafeirws.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Bwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio'r Gyfraith, Senedd yr Alban.
8.7 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Canfyddiadau ymgysylltiad ynghylch blaenoriaethau’r Chweched Senedd â phlant a phobl ifanc
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
8.8 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
9 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
10 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - trafod y dystiolaeth - Gohiriwyd tan 14 Mawrth 2022
Gohiriwyd y sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad tan 14 Mawrth 2022.
11 Cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 14 Chwefror 2022 - trafod yr adroddiad drafft
Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar y cytundebau rhyngwladol a ystyriwyd yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2022, a chytunodd arno.
12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael)
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael), a chytunodd arno.